SL(6)281 – Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2022
Cefndir a diben
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 12 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 fel a ganlyn:
(i) fel bod y cyfnod hysbysu byrraf o chwe mis ar gyfer hysbysiad y landlord, sydd eisoes yn ofynnol mewn perthynas â chontractau safonol cyfnodol newydd, yn cael ei ymestyn i gontractau safonol cyfnodol wedi eu trosi o 1 Mehefin 2023 ymlaen;
(ii) fel bod landlordiaid cymunedol yn gallu cysoni'r dyddiad amrywio rhent ar gyfer tenantiaethau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes. Gwneir hyn drwy, yn y flwyddyn ar ôl ei weithredu, ganiatáu i landlord o'r fath amrywio'r rhent ddim llai na 51 wythnos ar ôl y cynnydd blaenorol; ac
(iii) darparu bod cymalau amrywio rhent sy'n bodoli eisoes mewn tenantiaethau sicr yn y sector rhentu preifat yn parhau i fod yn berthnasol ar ôl trosi i gontract safonol cyfnodol lle mae’r landlord yn landlord preifat.
Yn ogystal, ac o ganlyniad i (ii) uchod, gwneir diwygiad canlyniadol i Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Arbed a Darpariaethau Trosiannol) 2022.
Gweithdrefn
Cadarnhaol drafft.
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni all Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Mae ymestyn y cyfnod rhybudd o dan gontractau safonol cyfnodol wedi’u trosi o ddau fis i chwe mis yn golygu bod landlord preifat, wrth adennill meddiant o’i eiddo, wedi’i gyfyngu am gyfnod hirach na’r cyfnod presennol. Mae Erthygl 1 o Brotocol Cyntaf y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn diogelu mwynhad person o’i eiddo – mae hyn yn berthnasol i fwynhad landlord preifat o’i eiddo. Gofynnir i Lywodraeth Cymru gadarnhau a yw wedi cynnal asesiad o’r effaith ar hawliau dynol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn a darparu rhagor o wybodaeth am ganlyniad asesiad o’r fath.
Pwynt Craffu ar Rinweddau 1.
Cynhaliwyd asesiad trylwyr o’r darpariaethau sydd wedi eu cynnwys yn y rheoliadau hyn er mwyn sicrhau eu bod yn gydnaws â hawliau’r Confensiwn.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
15 Tachwedd 2022